Lleoliad:
Lleoliad Allanol
Dyddiad: Dydd Gwener, 27 Hydref 2017
Amser:
10.00 -
12.35
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/4690
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Ann Jones AC (Cadeirydd) John Griffiths AC Huw Irranca-Davies AC Dai Lloyd AC Lynne Neagle AC Nick Ramsay AC David Rees AC David J Rowlands AC |
Tystion: |
Carwyn Jones AC, Prif Weinidog Cymru Karen Cornish, Llywodraeth Cymru |
Staff y Pwyllgor: |
Graeme Francis (Clerc) Kath Thomas (Ail Glerc) |
Gweld trawsgrifiad o’r cyfarfod (PDF 476KB) Gweld fel HTML (270KB)
Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Cafwyd ymddiheuriadau gan y canlynol:
Jayne Bryant; Russell George; Mike Hedges; Bethan Jenkins a Simon Thomas.
2.1 Bu'r Pwyllgor yn craffu ar waith y Prif Weinidog o ran dull Llywodraeth Cymru o ymgorffori hawliau plant a phobl ifanc yng Nghymru yn ei deddfwriaeth, ei pholisïau a'i harferion.
2.2 Cytunodd y Prif Weinidog i ddarparu rhagor o wybodaeth neu eglurhad i'r Pwyllgor ynghylch y canlynol:
· Sefydlu mecanwaith ffurfiol, fel Pwyllgor Cynghori Pobl Ifanc, i wrando ar farn plant a phobl ifanc fel rhan o'r broses o adael yr Undeb Ewropeaidd;
· Ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ddarpariaeth mynediad agored cyffredinol i bobl ifanc, ledled Cymru.
2.3 Ymrwymodd y Cadeirydd i ddarparu unrhyw enghreifftiau i'r Prif Weinidog o'r anawsterau y mae pobl ifanc yn eu cael wrth gael lleoliadau profiad gwaith, a gafwyd drwy waith ymgysylltu y Pwyllgor.
Gofynnodd yr Aelodau nifer o gwestiynau i'r Prif Weinidog ar faterion amserol.
Derbyniwyd y cynnig.
Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd yn y sesiynau blaenorol a chytunodd i ysgrifennu at y Prif Weinidog i ofyn am ragor o wybodaeth am nifer o faterion.